top of page

The Major Welsh College


All of the Oxford colleges have different connections and today I'm focusing on Jesus College.

Between 1571 and 1915, 24 Principals of Jesus College came from Wales or were of Welsh descent. By 1600 the student body was mainly Welsh, with just a few English students. In subsequent years, benefactions from well-wishers or old members of the College, who were usually of Welsh descent, endowed a number of fellowships and scholarships. These commonly stipulated that the recipients should be of the benefactors' own kin or belong to their particular parish, county, school, or region in Wales.

It is these historical factors which lead Jesus College to be known as 'The Welsh College' and the connection remains strong today.

So to welcome and embrace our Welsh friends, here is a blog post on 'Interview Preparation' written in Welsh:

Paratoi ar gyfer cyfweliad I Rydychen

Does dim amheuaeth; mae cyfweliadau yn frawychus, ond bydd can gwaith yn fwy ofnus os nad ydych wedi paratoi.

Mae yna deimlad mawr o ryddhad ar ol anfon eich cais, ond yn anffodus, os ydych am gael cynig lle yn Rhydychen, nid dyma diwedd y gwaith. Mae angen darllen am eich pwnc cyn hyd yn oed clywed os oes gennych gyfweliad.

Sut?

  • Edrychwch dros eich datganiad personol I wneud yn siwr eich bod yn gyfarwydd a phob manylyn

  • Mi ysgrifennais yn fanwl am Virginia Woolf yn fy natganiad, ond roeddwn mewn panig llwyr pan cefais fy holi ar fy nghyfeirnod byr tuag at Macbeth

  • Ystyriwch pam rydych am astudio yn Rhydychen a pham cafoch eich deni at y cwrs. Ymchwiliwch eich cwrs ar-lein I weld pa rannau sy’n eich diddori.

  • “Pam Saesneg yn Rhydychen?” oedd dechrau y rhan helaeth o fy nghyfweliadau

  • Ymgollwch yn eich pwnc. Ewch ati I ddarllen ymhellach na’r cwricwlwm, a darllennwch ddarnnau newydd hyd yn oed ar ol ysgrifennu eich datganiad personnol.

  • Os ydych wedi dysgu am y ddamcaniaeth economaidd Keynesian yn ysgol, edrychwch ar economeg o ongl gwahanol, er enghraifft yr ochr seicolegol, neu economeg ymddygiadol

  • Mae popeth yn gyfle. Trafodwch eich pwnc ag unrhywun a phawb sydd am wrando. Hyd yn oed os nad ydyn yn gyfarwydd a’ch pwnc, mae lleisio meddyliau yn gallu eich helpu I sefydlu’ch barn

  • Os oes rhywun yn cynig ffug gyfweliad, ewch amdani

  • Roedd gormod o ofn arnai I dderbyn, rhywbeth rwyf o hyd yn difaru!

Top Tips

Pam?

  • Cyfiawnhawch popeth rydych yn ei ddweud

  • Mae “Credaf fod damcaniaeth Darwin o esblygiad yn chwildroadol” yn ddiwerth oni bai eich bod yn gallu esbonio PAM rydych yn credu hyn.

  • Nid yw “ysgrifennodd Virginia Wolff am amryw o safbwyntiau gwahanol” yn graff os nad ydych yn dweud PAM y gwnaeth hyn.

  • “Credaf fod y Frenhines Elisabeth I yn hanesyddol bwyisg I fenywod.” Pam oedd hi’n bwysig?

  • Gofynnwch yn gyson i’ch hunan PAM, ac anogwch eraill I ofyn I chi PAM yn ogystal

  • Yn eich cyfweliad cofiwch “PAM? CYFIAWNHEWCH!”

bottom of page